Skip to content
Skip to navigation menu

Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

Staff sy’n medru’r Gymraeg:

Alex Llewelyn, Darlithydd
Richard James, Darlithydd
Arthro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru
Manon George, Tiwtor
Kathy Griffiths, Tiwtor

Mae Prifysgol Caerdydd yn fawr ei chefnogaeth i ddatblygu’r ddarpariaeth addysgol cyfrwng Cymraeg o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ddiweddar, fe adolygwyd y cynlluniau cenedlaethol i ddatblygu’r pwnc. Mae gan Brifysgol Caerdydd y nifer fwyaf o fyfyrwyr iaith Gymraeg yng Nghymru, a bwriadwn ddefnyddio’r ymarfer hwnnw’n llwyfan i ddatblygu darpariaeth ein sefydliad mewn ffordd ganolbwyntiedig a strategol a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i gydweithio.

Cynhelir dosbarthiadau tiwtorial yn Ysgol y Gyfraith, Caerdydd ar o leiaf dau o’r modiwlau craidd sylfeini cyfreithiol ym mhob un o’r 3 mlynedd o addysg.  Bydd myfyrwyr sydd yn astudio LLB y Gyfraith a’r Gymraeg, gradd gyfun, yn astudio modiwlau yn Ysgol y Gymraeg hefyd.  
Yn ogystal, mae deunyddiau ar gael ar Y Porth, y llwyfan E-ddysgu.

Manylion Cyswllt

Alex Llewelyn

E-bost: LlewelynA@cardiff.ac.uk